Pwy Ydym Ni?
“Rwy’n gweld y potensial am gydweithio rhwng GIG Cymru a’r Cyflymydd Cenedl Ddata yn gyfle cyffrous dros ben. Mae’n alinio’n gryf â’n gweledigaeth ar gyfer gwasanaethau meddygaeth fanwl a dyheadau ehangach rhaglenni meddygaeth drosiadol yng Nghymru. Heb os nac oni bai, bydd y cydweithio agos rhwng ein rhaglen meddygaeth fanwl a’r Cyflymydd Cenedl Ddata yn sbarduno’r manteision iechyd ac economaidd sy’n deillio o’r chwyldro iechyd digidol, drwy ryddhau mwy o amser i staff y GIG ofalu’n uniongyrchol am gleifion ac arwain arloesedd trosiadol pellach.”
– Clive Morgan Rheolwr Gyfarwyddwr, Gwasanaeth Genomeg Cymru Gyfan, GIG Cymru
Ein Cenhadaeth
Mae’r Cyflymydd Cenedl Ddata yn fenter Cymru gyfan sy’n cael ei datblygu i gyflymu prosesau newydd o ddeall, rhagweld a chael gwybodaeth o asedau data amrywiol ar gyfer effaith gymdeithasol, iechyd ac economaidd.
Trwy gyd-greu ar draws busnesau a phartïon eraill, nod Cyflymydd Cenedl Ddata Cymru yw ysgogi arloesedd o ran data a deallusrwydd artiffisial er mwyn creu atebion, cynnyrch a chymwysiadau newydd mewn clystyrau diwydiannol a gwasanaethau cyhoeddus allweddol, wrth gyfoethogi’r gronfa dalent o sgiliau yng Nghymru ym meysydd gwyddorau data a deallusrwydd artiffisial hefyd.
Cyfleoedd
Bydd y Cyflymydd Cenedl Ddata yn canolbwyntio ar y cyfleoedd a gynigir gan yr asedau data unigryw, y galluoedd a’r potensial sydd gennym yng Nghymru mewn perthynas â’r meysydd her canlynol:
Arloesedd Gwasanaethau Cyhoeddus (Gwybodaeth, effeithlonrwydd, awtomatiaeth, penderfyniadau gwell, datrys problemau mewn ffordd well, personoli)
Iechyd a Lles(Meddygaeth, diagnosteg ac ymyriadau manwl, systemau gofal iechyd deallus, gofal cymdeithasol trwy ddeallusrwydd artiffisial)
Sero-net a’r Amgylchedd (Ynni a thrafnidiaeth, rheoli’r amgylchedd, economïau cylchol a gwyrdd, tai, technoleg amaethyddol)
Gweithgynhyrchu a Systemau’r Dyfodol (Ffatri’r dyfodol, deunyddiau uwch, gwydnwch mewn cadwyni cyflenwi, gefeilliaid digidol, gweithgynhyrchu clyfar, technoleg amaethyddol)
Gwasanaethau Creadigol a Phroffesiynol (Cyfreithiol, technoleg ariannol, systemau busnes, cyfryngau cymdeithasol, systemau sy’n canolbwyntio ar bobl, a chyfathrebu).
Themâu Trawsbynciol
Data, gwybodaeth a’r gymdeithas
Deallusrwydd artiffisial diogel, sicr a moesegol
Dadansoddeg y gweithlu a busnes
Dysgu peiriannol, deallusrwydd artiffisial a gwyddorau data
Ein Cenhadaeth
“Mae data ym mhobman, a gwyddor data yw’r offeryn a all helpu cwmnïau arloesol i ddeall anghenion ac ymddygiad cwsmeriaid yn ogystal â llywio a gyrru gweithgareddau arloesi a datblygu.” – Nick Crew, Airbus Endeavr
Gan weithio gydag amrywiaeth o sefydliadau’r sectorau preifat a chyhoeddus a’r trydydd sector, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, mae’r Tîm Cyflymydd Cenedl Ddata ledled Cymru’n awyddus i ffurfio a chyd-greu rhaglen a fydd o’r budd mwyaf i Gymru a’r tu hwnt. Bydd y Cyflymydd Cenedl Ddata yn targedu twf cenedlaethol mewn busnesau, buddsoddiadau a sgiliau ym meysydd gwyddorau data a thechnoleg ddigidol.
Edrychwch ar ein llyfryn yn Wales-Data-Nation-Accelerator.pdf (cardiff.ac.uk) i gael rhagor o wybodaeth am yr hyn rydym yn ei wneud.
“Mae timau Ymchwil a Datblygu BT eisoes yn chwarae rôl arweiniol o ran datblygu technolegau deallusrwydd artiffisial a Gwyddorau Data, sydd â’r potensial i drawsnewid busnesau o bob maint ym mhob sector. Mae datblygu’r sgiliau a’r arbenigedd sydd eu hangen yn gam hanfodol tuag at wireddu’r manteision hynny a sicrhau bod Cymru’n gwireddu ei photensial. Yn BT, rydym yn awyddus i gydweithio â phrifysgolion a’r llywodraeth ar bob lefel tuag at ein nodau cytûn o wella cynhyrchiant, creu canlyniadau cymdeithasol cadarnhaol a chyflawni twf economaidd.”
– Nick Speed, Cyfarwyddwr BT Group Cymru a De Orllewin Lloegr